Rhoi Mwy o Le i Fusnesau Dyfu – Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU y DU
Bwriad buddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yw sicrhau tyfiant ym mhob rhanbarth yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cymunedau a busnesau a rhoi mynediad i swyddi newydd a hyfforddiant i bobl leol. Mae nawdd yn helpu busnesau i ehangu, o gael mwy o le i gyflogi mwy o staff.
Llywio Busnesau at Gyfleoedd Newydd – Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd
Ardaloedd arbennig o fewn ffiniau’r DU yw porthladdoedd rhydd lle mae rheolau economaidd gwahanol yn weithredol, megis rhyddhad treth a thollau. Bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn rhoi cyfle i fusnesau dyfu a’r holl offer sydd angen arnynt i fasnachu â’r byd, yn ogystal â buddsoddi mewn ynni cynaliadwy a chefnogi creu tua 20,000 o swyddi newydd.
Llwybrau Newydd at Lwyddiant – Cledrau Croesi Caerdydd
Bydd cysylltiadau trafnidiaeth newydd rhwng Bae Caerdydd a Chaerdydd Canolog, wedi eu hariannu gan Lywodraeth y DU, yn rhoi mynediad haws i fusnesau i ganol y ddinas a’r rhanbarth ehangach. Gweithreda’r buddsoddiad fel catalydd ar gyfer cynllun Cledrau Croesi ehangach sy’n ceisio hybu cysylltiadau ar hyd a lled y rhanbarth, yn cynnwys cysylltu â gorsaf arfaethedig Dwyrain Caerdydd ar Heol Casnewydd.
Llunio Cyfleoedd Newydd ar gyfer Busnesau Bach – HiVE
Bydd campws peirianneg newydd HiVE yng Nglyn Ebwy, wedi eu hariannu gan Lywodraeth y DU, yn hyfforddi mwy o bobl yng Nghymru, gan helpu busnesau bach i ddenu’r bobl fwyaf dawnus a chreu mwy o gyfleoedd busnes nag erioed o’r blaen. Bydd yn galluogi 600 o ddysgwyr i astudio a phrofi peirianneg uwch a chynnig amrywiaeth o raglenni ymwybyddiaeth technoleg.
Dewch o hyd i newyddion, gwybodaeth a chyngor gan y llywodraeth ynglŷn â dechrau neu dyfu eich busnes yng Nghymru.
Prosiectau Ffyniant Bro Eraill yng Nghymru
Dysgwch sut mae rhai o raglenni buddsoddi Llywodraeth y DU, yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, wedi bod yn cefnogi prosiectau ledled Cymru.